Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
31 Ionawr 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13191
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Cyflwynodd y Llywydd gydymdeimlad y Senedd â’r Prif Weinidog ar golli ei wraig a cododd yr Aelodau ar eu traed am ennyd o fyfyrio
Dechreuodd yr eitem am 13.31
Gofynnwyd cwestiynau 1-5 a 7-9. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.19
3 Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Dechreuodd yr eitem am 14.33
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 4 gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
4 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 15.22
Gofynnwyd cwestiynau 1-3 a 5-10. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 3 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar ôl cwestiwn 2.
5 Cwestiynau Amserol
Ni chyflwynwyd unrhyw Gwestiynau Amserol
6 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Adroddiad interim y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.07
7 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynllunio’r Gymraeg mewn Addysg
Dechreuodd yr eitem am 17.15
8 Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoli BVD mewn gwartheg a’r clafr mewn defaid yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 17.37
9 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser
Dechreuodd yr eitem am 18.00
10 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd)
Dechreuodd yr eitem am 18.37
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8190 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mai 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) (Saesneg yn unig)
Dogfennau
Ategol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
36 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig.
11 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 19.00
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 19.01
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 7 Chwefror 2023